·         Pa effeithiau y mae costau byw cynyddol wedi'u cael ar eich sefydliad a'ch sector hyd yn hyn?

Effaith fawr.

Cefndir: mae’r 22 Menter Iaith a’r sefydliad sydd yn cynrychioli’r rhwydwaith o Fentrau Iaith, Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru drwy is adran y Gymraeg ar gytundeb blynyddol.

Sefyllfa bresennol: Nid yw’r grant hwn wedi newid (dim cynnydd) ers dros ddegawd.

Nid yw staff y Mentrau Iaith yn gyffredinol, wedi derbyn cynnydd mewn cyflog ers dros ddegawd. Mae’r cyflog sydd yn cael ei gynnig yn golygu nad oes llawer yn ymgeisio am y swyddi gyda’r Mentrau Iaith. Nid yw’r cyflogau ‘chwaith wedi cynyddu yn unol â llog, felly mae'r staff presennol ar eu colled yn ariannol, mewn gwirionedd.

Mae cynnydd mewn prisiau popeth yn golygu ei bod yn anoddach i gadw staff ar eu cyflogau presennol, ac yn anodd i ddenu staff newydd.

Mae colli aelodau o staff, neu methu recriwtio yn golygu mwy o bwysau ar y staff presennol i wneud mwy o waith, sydd yn anorfod am effeithio ar ansawdd gwaith. Mae’r Mentrau Iaith yn hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau, ac yn ymfalchïo ar fod yno yn eu cymunedau yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau ar lawr gwlad. Mae nifer y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn cael ei effeithio yn andwyol heb y capasiti pwrpasol i'w cynnal.  

 

·         Pa effeithiau ydych chi'n rhagweld y bydd costau cynyddol yn eu cael ar eich sefydliad a'ch sector? I ba raddau y bydd yr effeithiau hyn yn anghildroadwy (e.e. lleoliadau'n cau, yn hytrach nag yn gyfyngiad dros dro yn unig ar weithgareddau)?

Mae’r Mentrau Iaith yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau am ddim neu am bris gostyngol iawn, ni ddylai pobl orfod talu i allu mwynhau yn y Gymraeg, ond gyda chynnydd parhaus mewn costau tanwydd fel un enghraifft, a phawb yn cynyddu eu costau i logi lleoliad fel enghraifft arall, byddai’n rhaid ail edrych ar hyn, sydd yn ei dro am wneud i'r cyhoedd ail asesu os am fynychu digwyddiadau ac yn ei dro yn cynnig llai o gyfleon i'r cyhoedd ddefnyddio, gweld a chlywed y Gymraeg.

Mae materion is adeiledd i'w hystyried hefyd, gyda rhent swyddfa yn codi, costau trafnidiaeth yn cynyddu mae hyn i gyd am effeithio ar ansawdd gwaith ac ansawdd lles y staff. Mae’r staff rheoli yn gorfod poeni am bryderon amgenach na gwaith dydd i ddydd, a daw gor-bryder personol law yn llaw gyda hynny.

Mae gwneud gwaith llawn amser arferol, gyda chynnydd ym mhrisiau popeth, colli staff sydd yn golygu mwy o waith i eraill, a’r pryder ddaw yn sgîl hyn oll am effeithio yn negyddol ar les iechyd corfforol a meddyliol staff.

·         Pa ymyriadau yr hoffech eu gweld gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?

Mae’r isod wedi cael ei nodi mewn llythyr at is adran y Gymraeg (pan oedd Eluned Morgan yn weinidog dros y Gymraeg) yn Tachwedd 2019.

-          Codi grant craidd 10 Menter: 

Codi grantiau craidd y mentrau canlynol: Brycheiniog a Maesyfed, Gorllewin Sir Gâr, Bro Ogwr, Bro Morgannwg, Sir Caerffili, Casnewydd, Sir Ddinbych, Merthyr Tudful, Maldwyn a Sir Benfro i £100,000 fel bod pob Menter Iaith yn derbyn dros £100,000. Credwn fodisafswm o £100,000 yn gosod sylfaen cryf i'r Mentrau hyn allu weithio’n effeithiol ac yn effeithlon o fewn eu hardaloedd. Bydd cyfanswm y gwahaniaeth hwn rhwng y 10 Menter yn dod i £287,337. 

-          Chwyddiant ar gyfer pob Menter:

Nid yw grant y Mentrau Iaith wedi codi i ystyried chwyddiant ers dros ddegawd sydd wedi effeithio’n fawr ar gyflog staff y Mentrau. Erbyn hyn nid yw cyflog swyddogion yn adlewyrchu lefel y gwaith a’r cyfrifoldebau sydd ynghlwm â’r swyddi gyda’r cyflogau isel yn golygu trosiant aml mewn staff. O'r herwydd, ni all y mentrau weithio mor effeithiol ag y dymunant drwy ddatblygu staff a’u cadw i weithio o fewn y rhwydwaith, yn hytrach na’u colli i fudiadau eraill.

-      Dim gostyngiad:  

Drwy ofyn am yr uchod, nid yw hyn yn golygu gostyngiad i grantiau presennol unrhyw un fenter. 

·         I ba raddau y mae’r effeithiau a ddisgrifiwch yn wahanol ar bobl â nodweddion gwarchodedig a phobl o statws economaidd-gymdeithasol is?

Mae’r Mentrau Iaith yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer pob aelod o gymdeithas a chymuned – nid oes gwahaniaethu yn digwydd. Mae’r Mentrau yn eu cynnig fel nodwyd, am ddim gan fwyaf fel bod dim ots ar statws economaidd aelodau’r cyhoedd – mae'r Gymraeg i bawb. Mae’n annatod mai pobl dlotaf cymdeithas fydd yn dioddef fwyaf i wasgfa costau cynyddol, ac yn gorfod gwneud y dewisiadau anodd hynny o fynd heb.